Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Perchennog siop melysion yn cael ei erlyn gan Safonau Masnach


Cafodd perchennog siop melysion ei erlyn gan Gyngor Sir Powys ar ôl iddo werthu bariau siocled gyda'r enw 'Wonka" arnynt ond heb fod a'r wybodaeth alergenau yn y fformat cywir arnynt.  Costiodd hyn yn ddrud iddo wedi iddo dderbyn dirwy o dros £10,000.

Plediodd Mr Alan Price, sy'n masnachu fel Mollies Sweet Shops, yn euog i ddeg cyhuddiad o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 mewn erlyniad dan arweiniad Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor.

Clywodd Llys Ynadon Llandrindod ar ddydd Mercher, 16 Awst, bod logo Wonka yn nod masnach gofrestredig ac mae'n drosedd ei ddefnyddio ar unrhyw gynnyrch heb ei fod wedi'i drwyddedu gan ddeiliad y Nod Masnach.

Mr Price oedd yn gyfrifol am osod y logo Wonka ar y labeli bariau siocled.  Gwnaeth wedyn ei gyflenwi i'w siopau melysion yn y Drenewydd, Llwydlo, Telford a Chaer.

Clywodd y llys hefyd na ddarparwyd y wybodaeth am alergenau ar y label yn y fformat cywir, ac roedd hyn yn peri risg diogelwch ar unwaith i bobl sydd ag alergeddau i laeth a soia.

Roedd Swyddog Safonau Masnach wedi cynnig cyngor ac arweiniad i'r busnes ar sawl achlysur ac wedi rhoi sawl cyfle i Mollies gydymffurfio â'r gyfraith.  Daeth y swyddog i glywed wedyn bod yr un cynnyrch yn cael ei gynnig ar werth y tu allan i Gymru, er gwaethaf sicrwydd gan y busnes bod holl fariau Wonka wedi cael eu tynnu o'r silffoedd ym mhob siop Mollies.

Cafodd Mr Price ddirwy o £7,200 am y troseddau gyda gorchymyn i dalu costau o £3,000 a gor-dal dioddefwr o £190.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel:

"Mae'r achos hwn yn dangos gwerth y gwaith y mae Safonau Masnach yn ei wneud. Eu nod yw diogelu aelodau o'r cyhoedd sy'n dioddef o alergeddau, ar yr un pryd mae Safonau Masnach yn diogelu deiliaid brandiau i sicrhau economi ehangach, cydnerth ac iach.  Er gwaethaf ymdrechion Safonau Masnach i roi cyngor ac arweiniad i berchennog y busnes, anwybyddwyd hyn, a dyna pam y daethpwyd â'r achos hwn i'r llys."

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out